Pwy ydym ni

CPD Crymych Cyf. (Clwb Pêl-droed Crymych Cyf.) yw’r Gymdeithas Budd Cymunedol a ffurfiwyd gan bobl leol i ddatblygu gweithgareddau chwaraeon a lles yn yr ardal ac i sicrhau a diogelu dyfodol Tafarn Crymych Arms yng Nghrymych, Gogledd Sir Benfro, a sicrhau ei fod yn parhau i weithredu fel canolbwynt cymunedol go iawn sydd o fudd i’r gymuned leol. Mae’r tafarn wedi bod ar werth ers peth amser a’r perchnogion presennol wedi penderfynu ymddeol ar ôl cau’r busnes ym mis Medi 2021. Mae’r tafarn wedi bod ar gau nawr ers 18 mis, gan adael bwlch sylweddol mewn gwasanaeth lleol pwysig i’r gymuned.

Nid oes tŷ bwyta a gwasanaeth cymdeithasu arall yn y pentref. Mewn cyfarfod cyhoeddus a thrwy gyfres o sesiynau galw heibio roedd consensws cryf iawn y byddai prynu ac ailddatblygu’r Crymych Arms fel menter gymunedol yn ysgogi gweithgaredd chwaraeon a chymunedol, a fyddai’n helpu i leihau ynysiad cymdeithasol a gwella lles ac a fyddai hefyd yn cynnig manteision economaidd i’r ardal ehangach.

Casglwyd gwybodaeth werthfawr drwy ymateb cadarnhaol i addewid a holiadur a ddosbarthwyd ar draws y gymuned mewn gwahanol ffyrdd: gofynnwyd i bobl beth fyddai eu blaenoriaethau i’r tafarn ac a fyddent yn barod i fuddsoddi’n ariannol yn y fenter neu ei chefnogi mewn ffyrdd eraill. Yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r perchnogion presennol, gwnaed cytundeb mewn egwyddor i brynu’r eiddo, yn amodol ar lwyddiant y cynnig cyfranddaliadau i ariannu’r pryniant hwnnw. Mae cyhoeddi’r Cynllun Busnes, ynghyd â’r ddogfen Cynnig Cyfranddaliadau cysylltiedig, wedi creu diddordeb sylweddol ymhlith rhai yn y gymuned a’r rhai sydd â chysylltiadau â’r gymuned. Mae’r weledigaeth hon nid yn unig i ailagor tafarn sy’n sefyll yn wag ar hyn o bryd, ond creu hwb gymunedol brysur go iawn ar gyfer chwaraeon a lles gan annog grwpiau o bob oed a diddordeb i ddod at ei gilydd trwy ddarparu lle croesawgar i ddatblygu cynlluniau gweithredu cymunedol, cael pryd o fwyd, cael diod a chymdeithasu, gydag ystafelloedd ar gyfer grwpiau cymdeithasol ac â diddordebau penodol i gyfarfod a datblygu gweithgareddau cymunedol integredig.

Caiff cyfleoedd  eu creu ar gyfer gwirfoddoli mewn gweithgareddau chwaraeon, gan arwain at well syniadau ynglŷn ag iechyd a lles. Mae’r defnydd o’r Gymraeg, a mynediad at yr iaith, yn nodwedd allweddol o fywyd cymunedol lleol a bydd cyrsiau i ddysgwyr yn cael eu hannog. Mae llawer o fentrau Eco  ac ynni adnewyddadwy yn yr ardal a bydd hyn yn cael ei hyrwyddo’n weithredol a chymerir agwedd ragweithiol at bob mater sy’n ymwneud â phrosiectau di-garbon ac amgylcheddol.

Darllenwch y Cynllun Busnes Isod