Beth yw Cymdeithas Budd Cymunedol?

2.1.1 Cymdeithasau Budd Cymunedol
Pwrpas cymdeithas budd cymunedol yw gwasanaethu buddiannau ehangach y gymuned, yn wahanol i
gymdeithasau cydweithredol sy’n gwasanaethu buddiannau aelodau. Mae Deddf 2014 yn ei gwneud yn
ofynnol i gymdeithas budd cymunedol “weithredu busnes, diwydiant neu fasnach” sy’n “cael ei gynnal,
neu y bwriedir ei gynnal, er budd y gymuned”. Ond nid yw’r Ddeddf yn darparu unrhyw ddiffiniad na
disgrifiad pellach o beth yw cymdeithas budd cymunedol, gan greu dibyniaeth ar ganllawiau cofrestru’r
Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae’r FCA yn canolbwyntio ar bedair nodwedd allweddol
cymdeithas budd cymunedol:

Pwrpas: Mae’r FCA yn dweud “rhaid i ymddygiad busnes cymdeithas budd cymunedol fod yn gyfan
gwbl er lles y gymuned”. Ni all fod unrhyw ddibenion eraill nac eilaidd, gan gynnwys unrhyw rai a allai
fod o fudd i’r aelodau yn ffafriol.

Aelodaeth: Yn debyg i bob cymdeithas, mae gan gymdeithasau budd cymunedol aelodau fel arfer sy’n dal cyfranddaliadau ac a roddir iddynt hawliau democrataidd ar sail un-aelod-un-bleidlais. Dywed yr FCA
“nid yw’n briodol fel arfer i gymdeithas budd cymunedol roi mwy o hawliau neu fuddion i unrhyw grŵp
penodol o aelodau, oherwydd mae’n rhaid i’r gymdeithas fod yn cynnal ei busnes er budd y gymuned.
Felly, er enghraifft, byddem yn disgwyl gweld cymdeithasau budd cymunedol yn cael ei rhedeg yn
ddemocrataidd ar sail un-aelod-un-bleidlais.”

Defnyddio elwau: Rhaid defnyddio unrhyw elw a wneir gan gymdeithas budd cymunedol er budd y
gymuned. Yn wahanol i gymdeithas gydweithredol, ni ellir dosbarthu elw i aelodau cymdeithas budd
cymunedol. Mae llog ar gyfalaf cyfranddaliadau yn gost weithredol a dylai fod yn destun i gyfradd
uchafswm datganedig (gweler Adran 6 am fwy o fanylion).

Defnyddio asedau: Rhaid i gymdeithasau budd cymunedol ddefnyddio eu hasedau er budd y gymuned yn unig. Os caiff cymdeithas budd cymunedol ei gwerthu, ei throsi, neu ei chyfuno ag endid cyfreithiol arall, rhaid parhau i ddefnyddio ei hasedau er budd y gymuned ac ni ddylid eu dosbarthu i aelodau. Gellir
atgyfnerthu’r clo hwn ar asedau cymdeithas budd cymunedol trwy fabwysiadu’r geiriad rhagnodedig ar
gyfer clo asedau statudol (gweler Adran 2.4).

Mae canllawiau cofrestru’r FCA yn cydnabod y gallai cymdeithas budd cymunedol ddiffinio’r gymuned y
mae’n ei gwasanaethu, ond ni ddylai hyn rwystro’r budd i’r gymuned yn gyffredinol, hynny yw, ni ddylid
cyfyngu budd cymunedol i aelodau yn unig. Nid yw’r FCA yn darparu arweiniad ar bwy all fod yn aelod o
gymdeithas budd cymunedol. Yng nghyd-destun cyfranddaliadau cymunedol, cymerir bod aelodaeth yn
agored i unrhyw berson sy’n cefnogi pwrpas y gymdeithas, heb y gwahaniaeth a geir mewn cymdeithasau
cydweithredol rhwng defnyddwyr ac aelodau nad ydynt yn ddefnyddwyr. Fel arfer, byddai’r FCA yn
disgwyl i aelodau gael rheolaeth ddemocrataidd, yn seiliedig ar un-aelod-un-bleidlais, ond efallai bydd yn
barod i gofrestru cymdeithasau lle mae rheolaeth wedi’i rhoi i riant-gorff, os gall y rhiant-gorff hwnnw
ddangos y gall redeg y gymdeithas er budd y gymuned.