Crymych ac ardal y Preselau
Mae’n debyg y daw enw Crymych o enw nant + cam’, gan gyfeirio at isafon o’r Afon Taf sy’n codi yn y tir uchel uwchben y pentref ac yn cymryd tro sydyn yn y cwm ym mhen gogleddol y pentref. Crybwyllwyd Crymych gyntaf mewn cofnod o Gantref Cemais yn 1468 ac ers canrifoedd bu’n ardal o ffermio da byw.
Ar wahân i’r Crymych Arms (sy’n dyddio o leiaf i 1861 ond efallai mor gynnar â 1812), ychydig a fodolai yma cyn ymestyn Rheilffordd Hendy-gwyn a Dyffryn Taf i Grymych yn 1874. Yna tyfodd yr ardal yn gyflym fel canolfan wasanaeth a thrafnidiaeth i’r ucheldiroedd cyfagos a chafodd enw am fod yn ‘Orllewin Gwyllt Gorllewin Cymru’, a adlewyrchir yn yr enw tafod-yn-y-boch o ‘Cowbois Crymych’ fel yr adnabyddir y trigolion weithiau. Cyfeirir at y pentref weithiau fel Crymych Arms, ar ôl enw’r orsaf – mewn adroddiad o Eisteddfod yn 1876 er enghraifft.
Cynhaliwyd sioe amaethyddol gyntaf Crymych yn 1909. Roedd marchnad da byw ranbarthol yn bodoli yn y pentref am flynyddoedd lawer; yn fwy diweddar datblygwyd safle pwrpasol newydd i’r gogledd o’r pentref, gan gynnwys nifer o fasnachwyr eraill yn ogystal.
Mae Cofeb Ryfel Crymych, sy’n cynnwys Eglwyswrw, Blaenffos, Llanfyrnach, Hermon a’r Glog, yn cofnodi enwau 50 o bobl a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac 17 yn yr Ail Ryfel Byd.
Yng nghyfrifiad 2021 poblogaeth ardal Crymych oedd 1,825 o bobl.
