Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd

Beth rydym eisiau ei weld a beth sy’n bwysig i ni.

EIN GWELEDIGAETH

• Sicrhau datblygiad y clwb pêl-droed–CPD Crymych, gan ganiatáu iddo godi arian i brynu    Tafarn Crymych Arms i bobl leol ei ddefnyddio fel hwb cymunedol.

• Ailagor Tafarn Crymych Arms fel ased cymunedol pwysig yng nghalon y gymuned.

• Darparu lle i bobl o bob oed gymdeithasu.

• Darparu lle cyfforddus a chroesawgar i’w ddefnyddio gan sefydliadau lleol. 

• Cynnal digwyddiadau chwaraeon, cyfarfodydd a nosweithiau cymdeithasol. 

• Cefnogi busnesau lleol a ffurfio partneriaethau gyda chwmnïau a sefydliadau lleol. 

• Cynnig prydau bwyd  a diodydd gan ddefnyddio cynnyrch lleol.

 • Sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, hen ac ifanc, a’u cefnogi i gyflawni eu potensial ym myd chwaraeon ac yn gymdeithasol.

EIN GWERTHOEDD

Rydym eisiau i’r clwb pêl-droed barhau i ddod â manteision i’r gymuned chwaraeon leol a phrynu Tafarn Crymych Arms ar gyfer:

Diwylliant – Lle bywiog i gryfhau ein hunaniaeth ddiwylliannol a’n treftadaeth – Lle i gyfarfod, rhannu profiadau ac i ddysgu gan eraill – Lle i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg.

Chwaraeon – Lle i ddatblygu mentrau chwaraeon newydd a chymdeithasu dros beint – Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau chwaraeon eraill yn yr ardal ar fentrau ar y cyd ar gyfer iechyd a lles pobl leol – Cymorth i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl andwyol

Cymdeithas – Lle i gymdeithasu dros beint – Man cyfarfod ar gyfer ystod eang o glybiau, grwpiau a chymdeithasau – Lle diogel sy’n hygyrch ac yn groesawgar i helpu i fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol mewn cymuned wledig.

Economi – Creu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol – Creu cyfleoedd gwaith i grefftwyr a masnachwyr lleol – Cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol.