Croeso i’r Crymych Arms
Croeso i’r Crymych Arms, eich tafarn cymunedol sydd newydd ei adnewyddu yng nghanol Cymru. Gyda golwg newydd ffres ac awyrgylch cynnes, croesawgar, rydym wedi adfywio’r man cyfarfod lleol hoff hwn i gynnig y lleoliad perffaith i ffrindiau, teuluoedd a chymdogion ddod at ei gilydd.

Bwyd
Yn Y Crymych Arms, mae’n bwydlen gril yn wledd at ddant pawb. Stêcs i dynnu dŵr o’ch dannedd, byrgyrs blasus a chyw iâr wedi’u grilio’n berffaith, pob un wedi’u paratoi gyda’r cynhwysion lleol gorau – dyma ychydig yn unig o uchafbwyntiau’r fwydlen. P’un a ydych chi’n crefu clasur neu’n chwilio am rywbeth gydag arlliw mwy modern, mae’n gril yn gweini prydau swmpus, blasus sy’n sicr o blesio.

Diodydd
Torrwch eich syched gyda’n dewis gwych o ddiodydd yn Y Crymych Arms. O gwrw iach, wedi’u bragu’n lleol a chwrw crefft i restr win dethol, mae rhywbeth at ddant pawb. P’un a ydych yn yr hwyliau am beint adfywiol neu wydraid o win yn glyd ger y tân, mae ein bar yn cadw’r stoc gorau i godi’ch calon.

Cinio Dydd Sul
Mae dydd Sul yn arbennig yn Y Crymych Arms gyda’n cinio dydd Sul traddodiadol. Dewch i fwynhau gwledd swmpus sy’n cynnwys cigoedd rhost blasus, tatws crensiog euraidd, a dogn hael o lysiau tymhorol, gyda grefi cartref danteithiol. Dewch ynghyd â theulu a ffrindiau am bryd o fwyd cysurlon sy’n dod â blas o goginio cartref i’ch penwythnos.

Grwpiau
Trefnu dathliad? Y Crymych Arms yw’r lleoliad perffaith ar gyfer archebion grŵp. P’un ai’n ddathliad teuluol, yn ddigwyddiad gwaith, neu ffrindiau’n dod ynghyd, rydym yn cynnig lleoliad croesawgar, bwyd blasus, a dewis eang o ddiodydd i wneud eich achlysur yn gofiadwy. Gadewch i ni ofalu am y manylion tra byddwch yn mwynhau amser o ansawdd gyda’ch gwesteion.
