Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd
Beth rydym eisiau ei weld a beth sy’n bwysig i ni.
EIN GWELEDIGAETH
• Sicrhau datblygiad y clwb pêl-droed–CPD Crymych, gan ganiatáu iddo godi arian i brynu Tafarn Crymych Arms i bobl leol ei ddefnyddio fel hwb cymunedol.
• Ailagor Tafarn Crymych Arms fel ased cymunedol pwysig yng nghalon y gymuned.
• Darparu lle i bobl o bob oed gymdeithasu.
• Darparu lle cyfforddus a chroesawgar i’w ddefnyddio gan sefydliadau lleol.
• Cynnal digwyddiadau chwaraeon, cyfarfodydd a nosweithiau cymdeithasol.
• Cefnogi busnesau lleol a ffurfio partneriaethau gyda chwmnïau a sefydliadau lleol.
• Cynnig prydau bwyd a diodydd gan ddefnyddio cynnyrch lleol.
• Sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, hen ac ifanc, a’u cefnogi i gyflawni eu potensial ym myd chwaraeon ac yn gymdeithasol.
EIN GWERTHOEDD
Rydym eisiau i’r clwb pêl-droed barhau i ddod â manteision i’r gymuned chwaraeon leol a phrynu Tafarn Crymych Arms ar gyfer:
• Diwylliant – Lle bywiog i gryfhau ein hunaniaeth ddiwylliannol a’n treftadaeth – Lle i gyfarfod, rhannu profiadau ac i ddysgu gan eraill – Lle i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg.
• Chwaraeon – Lle i ddatblygu mentrau chwaraeon newydd a chymdeithasu dros beint – Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau chwaraeon eraill yn yr ardal ar fentrau ar y cyd ar gyfer iechyd a lles pobl leol – Cymorth i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl andwyol
• Cymdeithas – Lle i gymdeithasu dros beint – Man cyfarfod ar gyfer ystod eang o glybiau, grwpiau a chymdeithasau – Lle diogel sy’n hygyrch ac yn groesawgar i helpu i fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol mewn cymuned wledig.
• Economi – Creu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol – Creu cyfleoedd gwaith i grefftwyr a masnachwyr lleol – Cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol.
